日本語版ホーム バーチャルツアー 理念・資料 学校向案内 通信販売 会員事業 コンサルト事業 研修事業
現地案内 出版物 支援の御願い ボランティア募集 情報センター 寄附用フォーム リンク 連絡先

 CATの教育事業

日帰り見学
宿泊研修
教員向研修

サステーナブルデザイン
コンクール


大学院課程

資料

環境影響教育

教育書籍

催事案内



2005/04
日帰り見学:危機管理/ウェールズ語版

訳注:このページは翻訳しません。


Asesu Peryglon ar gyfer Ymweliadau Undydd i Ysgolion a Chanolfan y Dechnoleg Amgen

Rhestr o beryglon:
Llithriadau, baglu, toriadau i’r croen a chleisiau.
Perygl anaf os nad yw rhywun yn eistedd yng ngherbyd rheilffordd y clogwyn
Oeri a gwlychu yn y tywydd
Pigiadau gwenyn
Gwlychu drwy ryngweithio ag arddangosfeydd neu syrthio i lynnoedd
Bod yn agored i afiechydon milheintiol drwy gysylltiad a’r anifeiliaid ar y tyddyn
Mynediad anawdurdodedig i ardaloedd cyfyngedig ar y safle, megis gweithdai, llethrau sgri,
safleoedd adeiladu neu ardaloedd lle y ceir gwaith cynnal a chadw
Disgyblion yn gadael y safle yn ddiarwybod i’r athrawon.

Pobl sy’n cael eu heffeithio gan beryglon:
Athrawon, disgyblion ac ymwelwyr eraill

Rhagofalon presennol:
Rydym yn gofyn am isafrif cymhareb disgybl/athro o 1:6 ar gyfer plant o dan 11 oed a 1:10 ar gyfer plant dros 11 oed. Byddwn yn annog ysgolion i ddod ag oedolion ychwanegol, os oes modd. Disgwylir i ysgolion benderfynu eu hunain pa mor agos y byddant yn goruchwylio grwpiau, ar sail eu hadnabyddiaeth o’r disgyblion.

Rydym yn eu cynghori i wisgo dillad addas.

Rydym yn gofyn y dylai pawb aros yn eu heistedd ar y tren nes iddo stopio symud.

Yn y sgwrs ragarweiniol, cynghorir grwpiau ysgol i beidio a rhedeg o gwmpas tra byddwch ar y safle.

Mae arwyddion yn eu lle sy’n rhybuddio pobl i ddefnyddio’r cyfleusterau golchi dwylo a ddarperir ar ol ymweld a’r tyddyn.

Ceir arwyddion clir yn dangos mannau gwaharddedig ac maent wedi’u cau. Dylech sicrhau bod y disgyblion yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o gadw allan o’r ardaloedd hyn.

Ni chaniateir i neb o dan 16 oed deithio ar y tren os nad ydynt yng nghwmni oedolyn.

Peryglon eithriadol nad ydynt yn cael eu lleihau i’r lleiaf posibl gan y rhagofalon presennol:
Dylai mamau beichiog osgoi dod i gysylltiad a’r geifr oherwydd y perygl o drosglwyddo Clamydiosis Defeidiog.

Lefel y Perygl:
Isel

Sue Cameron

Swyddog Addysg
Dyddiad yr asesiad: 23 Hydref 2003

Rhif Elusen 265239


このページのオリジナル画像 日本語版ホーム 日本語版限定コンテンツ
CATに連絡する際は必ず英語を用いて下さい